Mae Brenin nef ar fyr i ddod, Mewn rhwysg na welodd neb erioed; Mae angau, uffern fawr, a'r bedd Yn ofni edrych yn ei wedd. Cydgorfoledda'r saint bob un, Pan welant arwydd Mab y dyn; Fel bore wawr o'r dwyrain draw, Yn dangos bod yr haul gerllaw. Ni chenfydd etifeddion hedd, Ddim llid na dicter yn ei wedd, Esgynnant oll yn lluoedd llon, I wledda'n siriol ger ei fron. Pa bryd caf weld y ddedwydd awr, Boreddydd tragwyddoldeb mawr, I atgyfodi o'r meirw'n fyw, A'm llawn ddigoni â delw Duw? Boreddydd :: Boreudydd
- - - - - Mae Brenin nef ar fyr i ddod, Mewn rhwysg o'r fath na fu erioed; Mae angau, uffern fawr, a'r bedd Yn ofni edrych yn ei wedd. Gorfoledd pur i'r saint bob un, Fydd gweled arwydd Mab y dyn; Fel bore wawr o'r dwyrain draw, Yn dangos fod yr haul gerllaw. Llon etifeddion nefol hedd, Ni welant ddigter yn ei wedd, Esgynant oll yn lluoedd llon, I wledda'n siriol ger ei fron. - - - - - 1,(2),3a,4; 1,3b,4. Mae Brenhin nef ar fyr yn dôd Mewn rhwysg na welodd neb erioed; Mae angeu, uffern fawr, a'r bedd Yn ofni edrych ar ei wedd. Ymddetyd y greadigaeth faith, Yr haul a orphen ar ei daith, Y byd a lysg, y ser a ff%, Pan ymddangoso IESU cu. Cydorfoledda'r saint yn un, Pan welont arwydd Mab y dyn, Fel bore wawr o'r dwyrain draw, Sy'n dangos fod yr haul ger llaw. [Saint, gorfoleddant yn gytûn, Pan welant arwydd Mab y dyn, Fel bore wawr o'r dwyrain draw, Yn dangos fod yr haul ger llaw.] Ni wela etifeddion hedd, Ddim llid na digter yn ei wedd: Esgynant oll yn lluoedd llon, I wledda'n siriol ger ei fron. - - - - - 1,(2,3),4,5; 1,4,(5),6; 1,(4,(5)),6,7; 1,4,6,7,9,11; 1,4,7,(8); 1,4,7,9,10,(11),12. Mae Brenin nef ar fyr yn d'od Mewn rhwysg na welodd neb erioed; Mae angeu, uffern fawr, a'r bêdd Yn ofni edrych ar ei wêdd. Ond holl gariadau gwych fy Nuw Fu gynt yn farw, ond nawr yn fyw; Llawenydd annrhaethadwy dardd Wrth edrych yn ei wyneb hardd. Ni wêl y rhai'n ond gras i gyd, Gras a ddechreuodd cyn bod byd; Llifeiriol afon fawr o hedd, A chariad unig yn ei wedd. Fe lysg y byd yn ulw mân, Fe dry'r greadigaeth fel o'r blaen; Cwymp y planedau er eu maint, Bydd Iesu'n Frenin ar ei saint. Pan syrthio ser y nen i lawr, A phan ddiffoddo'r haulwen fawr; Er cymaint fydd y 'storm a ddaw, Dyogel fyddaf yn ei law. O! tyred, ddedwydd, hapus awr, Boreddydd tragwyddoldeb mawr; Poen yw 'mhleserau, poen fy oes, Wrth bechu'n erbyn gwaed y groes. Mi Wela'n codi'r Seren ddydd, Mi glywa'r canu yno fydd; Angelion gyd â'r saint yn un, Yn cadw cwmni Mab y Dyn. Ar Galfari y talodd ef, Ofynion mwya', trymma'r nef; Yn awr mae'r carcharorion prudd, Yn llawen hyfryd ddo'd yn rhydd. Mae haeddiant fy Iâchawdwr mawr, Yn dioddef poen rhwng nef a llawr, Yn fwy ei rin filiynau mawr Na haeddiant seintiau'r nef a'r llawr. Na fydded ardal cyn bo hîr, O'r dwyrain i'r gorllewin dîr, Na byddo'r iachawdwriaeth ddrud, Yn llanw cyrau y rhai'n i gyd. O tyr'd i ben ddedwyddaf ddydd, Darfydded sôn am bethau sydd; Na'r byd, na'i rwysg, na'i wae, na'i boen, Ond canu byth am waed yr Oen. ar fyr :: ar frys O! tyred :: O! dere poen fy oes :: poen yw'm loes
- - - - - 1,2,3; 1,2,4,5,6. Wel! dacw'r Brenin mawr yn dod, Mewn rhwysg na welodd neb erio'd; Mae angeu, uffern fawr a'r bedd, Yn ofni edrych ar ei wedd. Fe lysg y byd yn ulw mân, Fe dry'r greadigaeth fel o'r bla'n; Cwymp y planedau, er eu maint, Bydd Iesu'n Frenin ar ei saint. Mi Wela'n codi'r Seren ddydd, Mi glywa'r canu yno fydd; Angelion gyda'r saint yn un, Yn cadw cwm'ni Mab y Dyn. Gwel pererinion lu yn awr, Achubwyd yn y 'stormydd mawr: Dan Sinai fe'u cynhaliwyd hwy, Pwy elyn a'u gorchfyga mwy? A gwaed yr Oen eu prynu wnaed, Eu henwau ymhlith y saint a gaed; Hwy a gyfrifwyd y ddilai, O rif y bendigedig rai. Pa fater yw i'r rhai'n i gyd Gael eu dirmygu gan y byd? Eu henwau da, a'u parch, a'u bri, Sy'n 'nghadw yn y nefoedd fry.William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: gwelir: Ffordd newydd wnawd gan Iesu Grist Saint gorfoleddant yn gytun Wel dyma'r pererinion dewr Wel weithian c'od fy enaid cu |
The King of heaven is shortly to come, In a flourish no-one has ever seen; Death, great hell, and the grave Fear to look in his face. The saints will be jubilant together every one, When they see the sign of the Son of man; Like morning dawn from yonder east, Showing that the sun is at hand. The heirs of peace shall not find Any wrath or anger in his face, They shall all ascend as a cheerful hosts, To feast gladly happily before him. When may I get to see the happy hour, The morn of day of a great eternity, To rise again from the dead alive, And satisfy me fully with the image of God? ::
- - - - - The King of heaven is shortly to come, With a flourish of the kind never seen; Death, great hell, and the grave Fear to look in his face. Pure jubilation for the saints every one, Will see the sign of the Son of man; Like morning dawn from yonder east, Showing that the sun is at hand. Cheerful heirs of heavenly peace, Shall not see wrath in his face, They shall all ascend as cheerful hosts, To feast gladly before him. - - - - - The King of heaven is coming shortly In a flourish no-one has ever seen; Death, great hell, and the grave Fear to look on his countenance. The vast creation shall unravel, The sun shall finish its travel, The world shall burn, the stars shall flee When dear JESUS appears. The saints will rejoice together as one, When they see the sign of the Son of man, Like morning dawn from yonder east, Which shows that the sun is at hand. [Saints, they will be jubilatnt together, When they see the sign of the Son of Man, Like the morning dawn from yonder east Which is showing that the sun is at hand.] The heirs of peace shall not see Any wrath or anger in his face: They shall all ascent as cheerful hosts, To feast gladly before him. - - - - - shortly :: quickly :: pain my life :: pain is my anguish
- - - - - See, yonder is the great King coming, With a splendour no-one has seen before; Death, great hell and the grave are Fearing to look on his face. The world with burn to fine ash, The creation will turn like before; The planets will fall, despite their size, Jesus will be the King over his saints. I see the Daystar rising, I hear the singing there will be there; Angels with the saints as one, Keeping the company of the Son of Man. See the host of pilgrims now, Saved in the great storms: Under Sinai he upheld them, What enemy shall overcome them any more? With the blood of the Lamb redeem them he did, Their names amongst the saints were found; They were accounted faultless, Of the number of the blessed ones. What matter is it to all those To get scorned by the world? Their good name, and their honour, and their renown, Are kept in heaven above.tr. 2014,23 Richard B Gillion |
|